Adam yn canmol gostwng yr oedran pleidleisio yng Nghymru i 16

Mae Adam Price wedi croesawu ymestyniad yr etholfraint yng Nghymru i ddinasyddion o 16 ac 17 oed.  Mae’r newid yma yn dod fel rhan o’r Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Gall bobl ifanc o 16 ac 17 oed nawr bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol Cymraeg 2021.

Dywedodd Adam “Mae ymestyn yr hawl i bleidleisio at bobl ifance o 16 ac 17 oed yng Nghymru yn ddatblygiad cyffrous yn hanes ein gwlad, ac rwy’n llawn cefnogi’r ymestyniad yma o’r etholfraint. Gyda’r holl wybodaeth sydd ar gael yn yr oes fodern, mae’n gynyddol briodol fod oedolion ifanc yn gallu cymryd rhan yn ein democratiaeth.

Fydd y newid yma yn grymuso pobl ifance Cymru i siapio’r wlad rydyn nhw eisiau byw ynddi. Mae rhoi llais a phleidlais i oedolion ifance yn gam blaengar i’n democratiaeth ni yng Nghymru. Byddwn yn annog pobl sydd nawr yn gymwys i bleidleisio yn yr Etholiad Cymraeg nesaf i gofrestru ac i ddefnyddio eu pleidlais."

Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 hefyd yn ymestyn yr etholfraint i “drigolion gymwys o dramor yng Nghymru”, ac yn newid enw’r ddeddfwrfa yng Nghymru i “Senedd Cymru” – newid sydd wedi cael ei weithredu dros yr wythnosau diwethaf.

‘Gall y newid yma grymuso pobl ifanc Cymru i fynd ati i siapio’r math o wlad rydyn nhw eisiau byw ynddi’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd